Hwb Caerfyrddin 01267 611298 | Hwb y Drenewydd 01686 806349
Hwb Caerfyrddin 01267 611298 | Hwb y Drenewydd 01686 806349
Mae ein Hybiau Menter Ffocws yn rhoi’r cyfle i gyd-weithio â ni i greu cymuned o bobl fusnes sy’n rhannu’r un meddylfryd busnes ledled canolbarth a de Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo entrepreneuriaeth, i gynnig cymorth busnes a chreu profiad llewyrchus, sy’n canolbwyntio ar y gymuned i egin fusnesau ac entrepreneuriaid ar gam cyntaf y gwaith o sefydlu busnes.
Mae ein rhaglen amrywiol o weithdai a digwyddiadau AM DDIM yn cefnogi anghenion eich busnes a byddant yn eich helpu i lansio neu dyfu eich menter newydd.
Carem eich helpu chi a’ch busnes newydd.
Mae Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn eich gwahodd i adeilad trawiadol ganolfan newydd S4C, yr Egin, yng nghanol Caerfyrddin. Ynghyd ag arbenigedd a gwybodaeth ein partneriaid, rydym yn eich croesawu i ddod a gweithio gyda ni. Darllenwch fwy.
Lleolir Hwb Menter Ffocws y Drenewydd yn adeilad hanesyddol Pryce Jones yng nghanol y Drenewydd, lleoliad perffaith i gysylltu a gweithio gyda sefydliadau lleol. Dewch am sgwrs i ddysgu sut gallwn eich helpu i roi hwb cychwynnol i’ch busnes.
Mae ein Hybiau yn helpu pob cleient ar bob cam o’u llwybr cychwyn busnes, yn cynnwys eich helpu gyda: Cynhyrchu a datblygu syniad busnes, heriau cychwynnol a thyfu eich cwmni.
Bydd ein gweithdai a’n digwyddiadau AM DDIM yn rhoi’r offer angenrheidiol i chi symud eich syniad busnes i’r cam nesaf ac yn eich helpu i dyfu eich busnes newydd sy’n bodoli eisoes.
Mae gweithio ar y cyd yn yr Hybiau yn cynnig gofod cydweithio â phobl o’r un meddylfryd â chi, er mwyn i chi allu rhannu syniadau a sgiliau fydd yn eich galluogi i weithio mewn dull newydd, hyblyg.
Busnes menter gymdeithasol sydd wedi darparu cyngor a chymorth busnes arbenigol am ragor na 30 mlynedd yng Nghymru. Dysgwch fwy am lwyddiant eich busnes a pha wasanaethau menter eraill maen nhw’n ei gynnig sut gallant eich helpu. Ewch i wefan y busnes.
Mae ein Hybiau Menter yn elwa o arbenigedd a gwybodaeth ein partneriaid. Dewiswch hwb penodol i wybod pa bartneriaid rydym yn cyd-weithio â nhw yn eich ardal.
Dyddiadau Hybiau yw ein blog lle byddwn yn rhannu’r newyddion diweddaraf gan ein timau, ein digwyddiadau a datblygiadau diweddar.
Darllenwch am yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni a beth sydd ar y gweill gennym.
Beth bynnag fo’ch syniad, fel partner cyflenwi swyddogol y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes, mae Business mewn Ffocws wedi ymrwymo i’ch helpu gyda’ch taith fusnes newydd i fod yn llwyddiannus.
Os hoffech sgwrs, galwch ni ar:
Hwb Caerfyrddin 01267 611298
Hwb y Drenewydd 01686 806349
Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu gofod arloesol i ddeori a sbarduno busnesau newydd a’r rhai sy'n ehangu. Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Hybiau Menter Ffocws
Hawlfraint © 2019 Hybiau Menter Ffocws - Cedwir pob hawl. Darperir Hybiau Menter Ffocws gan Busnes mewn Ffocws Ltd | Cyfeiriad Cofrestredig: Uned 14 Parc Bocam, Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-Bont, Cymru, CF35 5LJ | Rhif Cofrestru’r Cwmni: 02553654 | Wedi Cofrestru yng Nghymru | Rhif TAW: 540 8347 48
Gyrrir gan GoDaddy Website Builder