Hwb Caerfyrddin 01267 611298 | Hwb y Drenewydd 01686 806349
Angharad Harding sy’n arwain Hwb Menter Caerfyrddin yn y gymuned. Mae ganddi ragor na 15 mlynedd o brofiad yn y sector busnes. Mae hi’n rhugl yn y Gymraeg. Mae ei phrofiad yn amrywio o fod yn rheolwr adeiladau busnes, sy’n cynnig cymorth rheoli cyfrif a darparu cyngor busnes i fusnesau BbaCH ledled y rhanbarth.
Mae Angharad yn mwynhau rhe
Angharad Harding sy’n arwain Hwb Menter Caerfyrddin yn y gymuned. Mae ganddi ragor na 15 mlynedd o brofiad yn y sector busnes. Mae hi’n rhugl yn y Gymraeg. Mae ei phrofiad yn amrywio o fod yn rheolwr adeiladau busnes, sy’n cynnig cymorth rheoli cyfrif a darparu cyngor busnes i fusnesau BbaCH ledled y rhanbarth.
Mae Angharad yn mwynhau rheoli’r Hwb ac yn darparu cymorth personol i fusnesau cyn iddynt gychwyn ac wedi iddynt sefydlu yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
A hithau wedi adleoli’n ddiweddar o Gaerdydd, mae gan Gwenllïan radd mewn Gweinyddiaeth Busnes (BSc) o Brifysgol Caerdydd ac ar hyn o bryd, mae hi’n astudio Diploma Ôl-radd mewn Marchnata. Mae’n rhugl yn y Gymraeg, ac mae hi’n canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau lleol a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael yn yr Egin i fusnesau ac entrepreneuriaid sy’n cychwyn arni.
Mae Gareth yn cyd-lynu’r Hwb o ddydd i ddydd. Mae e’n rhugl yn y Gymraeg, ac mae ganddo brofiad o weithio yn y sector cyhoeddus a phreifat, yn bennaf ym maes AD yn Ne Cymru. Rôl allweddol Gareth yw sicrhau bod yr Hwb yn croesawu pawb, yn annog aelodau newydd i gofrestru, yn cyfeirio unigolion at y sianelau cymorth priodol ac yn creu amgyl
Mae Gareth yn cyd-lynu’r Hwb o ddydd i ddydd. Mae e’n rhugl yn y Gymraeg, ac mae ganddo brofiad o weithio yn y sector cyhoeddus a phreifat, yn bennaf ym maes AD yn Ne Cymru. Rôl allweddol Gareth yw sicrhau bod yr Hwb yn croesawu pawb, yn annog aelodau newydd i gofrestru, yn cyfeirio unigolion at y sianelau cymorth priodol ac yn creu amgylchedd cymunedol cyfeillgar i bawb sy’n defnyddio’r gofod newydd, trawiadol.
Dewch am goffi, dewch i gyfarfod â'r tîm a gallwn sgwrsio am eich syniadau
Edrychwch ar amserlen y gweithdai a’r digwyddiadau fel y gallwch gyfarfod â phobl sy’n rhannu’r un meddylfryd.
Angen gofod desg er mwyn cydweithio a phobl eraill sydd ar yr un daith a chi?
Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu gofod arloesol i ddeori a sbarduno busnesau newydd a’r rhai sy'n ehangu. Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Hybiau Menter Ffocws
Hawlfraint © 2019 Hybiau Menter Ffocws - Cedwir pob hawl. Darperir Hybiau Menter Ffocws gan Busnes mewn Ffocws Ltd | Cyfeiriad Cofrestredig: Uned 14 Parc Bocam, Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-Bont, Cymru, CF35 5LJ | Rhif Cofrestru’r Cwmni: 02553654 | Wedi Cofrestru yng Nghymru | Rhif TAW: 540 8347 48
Gyrrir gan GoDaddy Website Builder