Hwb Caerfyrddin 01267 611298 | Hwb y Drenewydd 01686 806349
Mae ein rhaglen Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn annog entrepreneuriaid cyfnod cynnar i ddechrau eu busnes a chefnogi busnesau sy’n bodoli eisoes dyfu. Gan ddefnyddio gwybodaeth helaeth ac arbenigedd ein holl bartneriaid cyflenwi, rydym wrth ein bodd yn eich cefnogi drwy gydol eich taith fusnes, gan roi’r hyder i chi symud eich menter i’r cam nesaf.
Dewch i ymuno â ni i ddysgu mwy am ein rhaglen o weithdai a digwyddiadau AM DDIM, yn cynnwys y rheini y tu allan i oriau gwaith, i’ch cefnogi chi a’ch menter, i greu busnesau newydd a gwell swyddi, yn agosach i gartref.
Fe welwch fod yr Hwb yn le cyffrous ac ysbrydoledig i dyfu eich syniadau busnes. Wedi’i leoli yn adeilad trawiadol yr Egin yng Nghaerfyrddin, mae gennym dîm profiadol iawn i roi'r cymorth a’r arweiniad angenrheidiol i’ch rhoi chi ar ben y ffordd. Ynghyd â’n tîm, rydym wrth ein boddau yn darparu’r rhaglen hon gydag arweinwyr yn y diwydiant, yn cynnwys Tramshed Tech a Chanolfan Cydweithredol Cymru, yn ogystal â rhwydweithiau cymorth busnes Cyngor Sir Benfro, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Phrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant.
Dewch i’n gweld heddiw i fanteisio ar ein hamrywiaeth eang o weithdai a digwyddiadau AM DDIM, i’ch helpu i wireddu eich syniad busnes, yn ogystal â mwynhau’r cyfle i weithio mewn gofod llewyrchus, modern, newydd ar y cyd, yng nghanol Caerfyrddin.
Dysgwch beth yw’r dyddiadau hwb diweddaraf gan eich hwb menter leol, ynghyd â newyddion ein partneriaid a rheolwyr yr Hwb.
Dewch am goffi, dewch i gyfarfod â'r tîm a gallwn sgwrsio am eich syniadau
Edrychwch ar amserlen y gweithdai a’r digwyddiadau fel y gallwch gyfarfod â phobl sy’n rhannu’r un meddylfryd
Angen gofod desg er mwyn cydweithio a phobl eraill sydd ar yr un daith a chi?
Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu gofod arloesol i ddeori a sbarduno busnesau newydd a’r rhai sy'n ehangu. Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Hybiau Menter Ffocws
Hawlfraint © 2019 Hybiau Menter Ffocws - Cedwir pob hawl. Darperir Hybiau Menter Ffocws gan Busnes mewn Ffocws Ltd | Cyfeiriad Cofrestredig: Uned 14 Parc Bocam, Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-Bont, Cymru, CF35 5LJ | Rhif Cofrestru’r Cwmni: 02553654 | Wedi Cofrestru yng Nghymru | Rhif TAW: 540 8347 48
Gyrrir gan GoDaddy Website Builder